Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lisa Turnbull, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru Sue Thomas, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru Melanie Gadd, Y Gymdeithas Cynllunio Teulu Jason Harding, Diabetes UK Cymru
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Lynne Neagle. Nid oedd neb yn dirprwyo.
2. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru
2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y modelau a ddefnyddir i ddarparu gofal iechyd sylfaenol yn Lloegr.
3. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth gan Diabetes UK Cymru a'r Gymdeithas Cynllunio Teulu
3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
3.2 Cytunodd y Gymdeithas Cynllunio Teulu i ddarparu’r canlynol:
· Ffigurau ar nifer y fferyllfeydd yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y cynllun atal cenhedlu hormonaidd brys (EHC); a
· Rhagor o fanylion ynghylch a oes amrywiaeth ledled Cymru yng ngallu’r rhwydwaith fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau EHC.
3.3 Gofynnodd y Pwyllgor am nodyn gan ei ysgrifenyddiaeth sy’n archwilio i ba raddau mae trefniadau ar waith i fferyllwyr drosglwyddo’u hyfforddiant a’u cymwysterau ar draws ffiniau byrddau iechyd lleol gwahanol a rhwng Cymru a Lloegr.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethu Cymdeithasol yn cynnwys y wybodaeth ychwanegol am gyllideb ddrafft 2012-13. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am gadarnhad o’r union ffigur a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth, wrth gyfrifo’r gyllideb, i adlewyrchu’r chwyddiant ym maes iechyd.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).
6. Ymchwiliad i leihau'r risg o strôc - trafodaeth breifat am y prif faterion
6.1 Trafododd y Pwyllgor brif negeseuon ac argymhellion yr ymchwiliad i leihau'r risg o strôc.
Trawsgrifiad